Enghraifft o'r canlynol | ardal hanesyddol, dugiaeth |
---|---|
Daeth i ben | 1866 |
Label brodorol | Herzogtum Schleswig |
Dechrau/Sefydlu | 1058 |
Olynwyd gan | Teyrnas Prwsia |
Yn cynnwys | De Schleswig, Northern Schleswig |
Olynydd | Province of Schleswig-Holstein |
Enw brodorol | Herzogtum Schleswig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dugaeth rhwng afon Eider yn y de ac afonig Kongeå yn y gogledd ar benrhyn Jylland (Jutland), oedd Dugiaeth Schleswig (Daneg: Hertugdømmet Slesvig; Dugiaeth Hertugdømmet Sønderjylland (Dugaeth De Jylland) yn wreiddiol; Almaeneg: Herzogtum Schleswig). Roedd hi'n cwmpasu ardal rhwng tua 60 km (35 milltir) i'r gogledd a 70 km (45 mi) i'r de o'r ffin bresennol rhwng yr Almaen a Denmarc. Mae'r diriogaeth wedi'i rhannu rhwng y ddwy wlad ers 1920, gyda Gogledd Schleswig yn Nenmarc a De Schleswig yn yr Almaen.
Yn wahanol i Holstein a Lauenburg, nid oedd Schleswig erioed yn rhan o Gydffederasiwn yr Almaen. Yn hytrach, roedd Schleswig dan wrogaeth Denmarc, ac roedd ei thrigolion yn siarad Daneg, Almaeneg, a Gogledd Ffriseg. Roedd Rhyddfrydwyr Cenedlaethol Denmarc a'r Almaen ill dau eisiau i Schleswig fod yn rhan o wladwriaeth genedlaethol Danaidd neu Almaenig yn y 19eg ganrif. Gwrthryfel Almaenig ym mis Mawrth 1848 achosodd Rhyfel Cyntaf Schleswig a ddaeth i ben yn 1852. Wedi Ail Ryfel Schleswig (1864), roedd y tair Dugiaeth yn cael eu llywodraethu ar y cyd gan Awstria a Phrwsia. Yn 1866, daethant yn rhan o Prwsia.
Y Knud (arglwydd) Lavard (1096 –1131) oedd y cyntaf i dderbyn y teitl Hertug (Dug), teitl Ewropeaidd ar uchelwyr a oedd hefyd wedi lledaenu i'r gwledydd Nordig. Ar ôl 1386 daeth yn fwy cyffredin i'r Daniaid enwi'r lle fel Slesvig (o'r Almaeneg Schleswig) yn hytrach na De Jutland Denmarc. Buodd ymgypris rhwng Daniaid ac Almaenwyr ar y diriogaeth hon ers canrifoedd.
Mae'r ardal ddeheuol bellach yn rhan o Schleswig-Holstein, un o daleithiau'r Almaen.